Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Rhagfyr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
David Melding (Canol De Cymru): O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â'r rhesymau y bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi ar gyfer prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018?
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach ar gyfer Cymru, yn dilyn ei gyhoeddiad heddiw drwy ddatganiad ysgrifenedig?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6611 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2017.
Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 20 Medi 2017.
Dogfennau
ategol
Gohebiaeth
rhwng y Cadeirydd a Llywodraeth Cymru
(60 munud)
NDM6572
Lee Waters (Llanelli)
Mick Antoniw (Pontypridd)
David Melding (Canol De Cymru)
Nick Ramsay (Mynwy)
Hefin David (Caerffili)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
David Rees (Aberafan)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar rwydwaith ffyrdd Cymru.
2. Yn nodi'r dystiolaeth bod angen system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig - gan gynnwys teithio llesol - i ddarparu dewis amgen ymarferol a deniadol yn hytrach na defnyddio'r car.
3. Yn croesawu'r ymrwymiad i'r camau cyntaf tuag at metro de Cymru.
4. Yn cymeradwyo'r ymrwymiad i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer metro i ogledd-ddwyrain Cymru, a dyrannu cyllid i ddatblygu achos amlinellol strategol ar gyfer metro Bae Abertawe, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod cyllid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb llawn fel cam nesaf.
5. Yn credu bod yn rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael y pŵer i weithredu fel corfforaeth ddatblygu - gyda'r gallu i fanteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd tir mewn ardaloedd sy'n agos at orsafoedd metro - er mwyn denu rhagor o arian i ehangu'r rhwydwaith metro.
(60 munud)
NDM6612 Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;
b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; ac
c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;
b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;
c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;
d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Penfro)
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei le:
'archwilio cymhellion i awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu'.
(30 munud)
NDM6610 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Y diwydiant adeiladu yng Nghymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Ionawr 2018